Ann Davies

@twtsi


Gweld Prosiect

Gan i fi astudio Dylunio Graffig a Ffotograffiaeth yn y 90au, mewn oes cyn-ddigidol, ro’dd y profiad o lawrlwytho app Instagram a dechrau mwynhau ffotograffiaeth ffôn symudol rai blynyddoedd yn ôl yn brofiad rhyfeddol. Yn hollol wahanol i ramant ffotograffiaeth ffilm a’r disgwyl eiddgar i ddatblygu lluniau cyn eu gweld, roedd ffotograffiaeth ffôn symudol yn gysyniad newydd sbon i fi – yn egniol ac yn digwydd ar amrant, bron yn ddidaro. Bu’n fodd i fi archwilio gwedd hollol newydd ar ffotograffiaeth a gwedd newydd o ryddid gyda llai o bwyso a mesur a llai o wasgfa nag o’r blaen. Drwy hyn fe gwrddes i â nifer o ffotograffwyr ffôn symudol o bedwar ban byd – pob un yn angerddol am greu delweddau a phensaerniaeth, am gyfarfod i greu delweddau ffonau symudol a theithio a dysgu’n gilydd am arddulliau newydd mewn llefydd newydd. Dyma rai o ddelweddau fy mlynyddoedd Instagram. Delweddau a ysbrydolwyd gan liwiau a phatrymau, a’r bobl greadigol y cwrddes i ar hyd y ffordd – y breuddwydion effro, emosiynnau a’r synau a fu’n byw yn fy meddwl.