Ayesha Khan

The Everyday | standing up


Edrychwch ar y wefan

 

Mae Ayesha Khan yn ffotograffydd Cymreig sy’n defnyddio ei gwaith creadigol i fynd i’r afael â cham-gynrychiolaeth o ferched Mwslemaidd ar y cyfryngau Prydeinig. Ag Ayesha’n hanu o gefndir hanner-Gymreig a hanner-Pacistanaidd, mae hi’n deall y ddau ddiwylliant a’r gwahaniaethau rhyngddynt. Mae hi hefyd yn ferch Fwslemaidd sy’n gwisgo hijab; o ganlyniad cafodd brofiad personol o faterion craidd sy’n ymwneud â stereoteipio ac Islamoffobia wrth iddi dyfu i fyny yng nghymoedd De Cymru. Un o themâu canolog ei gwaith ffotograffig yw’r portread o ferched Mwslemaidd pwerus, a hynny’n ymateb uniongyrchol i stereoteipiau negyddol o Fwslemiaid fel y’u gwelir mewn delweddau cyfryngol o bob math.

 

The Everyday

Mae menywod Mwslemaidd yn lleiafrif oddi mewn i leiafrif, ac yn wynebu tair lefel o wahaniaethu: bod yn fenyw, bod yn fenyw Fwslemaidd, a bod yn fenyw Fwslemaidd sy’n gwisgo dillad sy’n dynodi ei chrefydd.

Caiff rhyddid i ferched Mwslemaidd ei fesur yn ôl y graddau y mae codau gwisg y merched hynny’n cydymffurfio â’r safonau sy’n dderbyniol yn y Gorllewin. Mae llawer o Orllewinwyr yn tybio nad dewis y merched eu hunain yw gwisgo dillad sy’n cyd-fynd â’u ffydd. Mae’r syniad hwn yn gwadu gallu menywod Mwslemaidd i weithredu, ac i ddewis gwisgo’r hijab a dillad diymhongar. Yn ogystal â stereoteipio o’r fath, cafodd gwisgoedd Islamaidd yn y DG eu cysylltu hefyd gan rai elfennau o gyfryngau’r DG – mewn modd negyddol – â phryderon am fewnfudo a therfysgaeth. Cafodd y cysylltiad traddodiadol ei drawsffurfio – o gysylltiad crefyddol i gysylltiad gwleidyddol; pan fydd menyw’n gwisgo hijab, mae hi’n troi’n Fwslim gweladwy ac yn darged ar gyfer Islamoffobia. Mae’r rhwystrau wrth geisio integreiddio’n gymdeithasol yn cynyddu, felly, wrth i rywun ddewis hunan-adnabod fel Mwslim.

Trwy gynnig cynrychioliad cymdeithasol gwahanol, mae delweddau’r prosiect hwn yn ceisio ennyn deialog oddi mewn i’r gymuned Orllewinol. Cytunodd y merched yn y delweddau hyn i gael tynnu eu lluniau yn eu mannau gwaith neu hamdden am eu bod yn awyddus i oresgyn stereoteipiau a dangos sut y maent yn integreiddio â chymdeithas. Roedd cyfweliadau â’r merched hefyd yn elfen bwysig, er mwyn personoli a rhoi cynfas ehangach i’w profiadau – er mwyn y merched eu hunain ac er budd i’r gynulleidfa. Mae’r dyfyniadau a ddewiswyd yn cyfarch y gynulleidfa’n uniongyrchol, ac yn gwahodd pobl i herio eu rhagdybiaethau.

 

Standing Up

Mae ffaith bod 80% o’r adroddiadau a wneir am gam-drin corfforol yn cael eu gwneud gan ferched Mwslemaidd yn dystiolaeth barod o’r ffaith nad oes yna ddigon o addysg ac ymwybyddiaeth o’r ffydd Islamaidd ym Mhrydain. Ymhellach, mae sylwadau negyddol am Fwslemiaid ar y cyfryngau Prydeinig yn gorbwyso sylwadau cadarnhaol o ffactor o ryw 21:1. Mae hwn yn un o’r ffactorau pennaf sy’n cyfrannu at gynnydd Islamoffobia.

Mae’r prosiect hwn yn archwilio hunaniaeth merched Mwslemaidd y mae’n rhaid iddyn nhw eu hamddiffyn eu hunain ac addysgu pobl eraill am Islamoffobia. Mae dillad pob cyfranogwr yn dangos yr amrywiaeth eang o wisgoedd y mae merched Mwslemaidd yn dewis eu gwisgo. Yn y cyfryngau, defnyddiwyd rhyw fath o ffurfwisg generig i stereoteipio ac i awgrymu bod pob Mwslim yn gwisgo fel Arab. Dyw hynny ddim yn wir, wrth gwrs: crefydd nid diwylliant yw Islam.

Es ati i greu delweddau o fenywod Mwslemaidd grymus ac ymgorffori’r rhain mewn adeiladau Gorllewinol o bwys yng Nghaerdydd. Dewisais yn benodol adeiladau sy’n cynrychioli’r Gorllewin, o safbwynt diwylliant, hanes, addysg, llywodraethiant a chyfryngau. Amlygir y sefydliadau hyn er mwyn dangos y byddai hyrwyddo Islam mewn modd cadarnhaol, ac ar raddfa eang, yn cael effaith sylweddol; mae pob un o’r sefydliadau dan sylw yn cael ei barchu yn ei ffordd ei hun ac yn meddu ar ei gynulleidfa benodol ei hun.

Wrth greu fy mhortreadau, ceisiais ddefnyddio golau naturiol er mwyn creu cysgodion ac aroleuo lle’r oedd hynny’n fodd i ychwanegu at fy neges. Defnyddir aroleuo i greu gwrid sanctaidd – ‘Noor’ – ar wyneb pob cyfranogwr, i fynegi eu safiadau nhw yn erbyn gwahaniaethu, ynghyd â’u balchder o’u ffydd. Mae’r cysgodion yn cynrychioli’r tywyllwch sydd i’w weld mewn syniadau Islamoffobig a’r ymddygiad sy’n deillio o hynny.

Roedd yr holl gyfranogwyr yn cytuno gyda’r datganiad bod Islam wedi cael ei gamddehongli gan lawer a bod angen gwneud mwy i oleuo ac i addysgu pobl am wir neges Islam, sef heddwch.