Jason Thomas

BELOW THE RADAR


Edrychwch ar y wefan

Gweld Prosiect

Fy nod fel ffotograffydd yw adrodd straeon. Yr hyn sy’n denu fy sylw yw’r ffordd y gall un ystum neu olwg sydyn danio atgof am rychwant o emosiynnau. O’r cynnes a’r agos i’r oeraidd a’r tawedog, rwy’n cael fy ysbrydoli gan y ffordd y gall un ffram ddal a chyfleu gwahanol agweddau o berthynas pobl â’i gilydd. Mae’r her o ddadorchuddio’r gwirioneddau gwib yma’n sbarduno fy chwilfrydedd a’m hawydd i greu cyswllt gyda’r bobl yn fy lluniau a’r byd ehangach sydd o fy nghwmpas.

Mae’r teimlad y gall portread ei gyfleu yn fy nharo i bob tro. I fi, mae portread yn gyfle i greu cyswllt a chodi llen ar fywyd person. Mae naratif bywyd pobl yn fy swyno a’r hyn rwy’n trysori fwyaf yw ennydau real a naturiol ein profiadau cyffredin. Dyna pryd ry’n ni ar ein harddaf, ar yr adegau hynny sydd heb eu sgriptio. Defnyddio’r cyfrwng rwy’n ei garu i ddal gwir bersonoliaeth a bwrlwm person – dyna yw fy nod.