Sam Ivin

LINGERING GHOSTS


Edrychwch ar y wefan

Gweld Prosiect

 

Sut beth yw bod yn geisiwr lloches yn y DG? Y cwestiwn hwnnw oedd man cychwyn gwaith ymchwil Ivin, a gychwynnwyd mewn canolfan ‘galw heibio’ yng Nghaerdydd ac a ddatblygwyd wedi hynny ledled Lloegr. Mae’r gwaith yn ceisio codi cwestiynau ynglŷn â’r modd y mae system fudo’r DG yn trin y rheiny sy’n cyrraedd y wlad i chwilio am fan diogel.

Mae’r portreadau hyn, a gafodd eu crafu’n gorfforol, yn ceisio’r ymdeimlad o golli nabod ar yr hunan, a’r rhwystredigaeth sy’n dod i ran pobl wrth iddyn nhw aros i glywed beth fydd eu tynged. Mae gwaith Ivin yn olwg fyfyriol ar y cwestiynau hyn ac yn osgoi goleuadau llachar yr ymdriniaethau o’r pwnc a welir ar y cyfryngau torfol. Mae ei bortreadau yn cynnig safbwynt syml a grymus ar fater nad yw bob amser yn derbyn y sylw dyledus, sef y broses o aros am loches, a phrofiad y bobl hynny o’r broses honno.

Er y cânt eu cynrychioli yn y fan hon heb lygaid, mae gan y bobl hyn hunaniaeth ac rydym yn eu hadnabod fel tadau, mamau, meibion a merched – bodau dynol, yn syml ddigon.

 

Mae Sam Ivin yn ffotograffydd a’i waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol, ynghyd â’r bobl sy’n gysylltiedig â’r pynciau hynny. Mae ei luniau yn ceisio dangos effaith sefyllfaoedd penodol ar y bobl a bortreadir. Trwy ddogfennu storïau a safbwyntiau, mae e’n gobeithio cyrraedd at ddealltwriaeth fwy personol a diriaethol o’u profiadau. Astudiodd ar gwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol Prifysgol Cymru, Casnewydd, a graddio yn 2014.

Ers hynny enillodd nifer o wobrau ffotograffiaeth o bwys, gan gynnwys Gwobr Magnum i Raddedigion Ffotograffiaeth ym Mai 2017, Gwobr Gyntaf GMC, Cymdeithas Frenhinol Artistiaid Birmingham, Mawrth 2017, ac roedd yn ail am wobr y Ddelwedd Unigol Orau gan Fyfyriwr Graddedig yng nghystadleuaeth y British Journal of Photography yn 2016. Enillodd y wobr gyntaf am Ddelwedd Unigol yng nghategori ‘Dynol’ y Renaissance Photography Prize yn 2015.