Amanda Jackson

TO BUILD A HOME


Edrychwch ar y wefan

Gweld Prosiect

Mae Amanda yn ffotograffydd llawrydd sy’n byw gan mwyaf ym Malvern, Sir Gaerwrangon, ond mae hi hefyd yn treulio llawer o’i hamser mewn carafán retro bychan yn Sir Benfro. Ymddangosodd ei gwaith mewn nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys: The Guardian; The Observer; The Independent; cylchgrawn In Clover, Marie Claire, Photoworks Annual a One Planet Life.

Mae lluniau Amanda yn ddarlun o fywyd ym Mhentref Eco Lammas, ar Dir y Gafel yn Sir Benfro. Aeth y ffotograffydd i ymweld â’r safle ddwywaith yn 2010. Cafodd argraff mor ffafriol o’r lle fel y penderfynodd hi symud i’r ardal ar ddechrau 2011 a phrynu darn o dir gerllaw. Ers hynny, bu’n rhannu ei hamser rhwng y fan honno a’i phrif gartref ym Malvern.

Mae cyfres ‘To Build A Home’ yn gipolwg ar fywydau trigolion a ddewisodd droi eu cefnau ar ffordd fodern a chonfensiynol o fyw, a dewis byw yn hytrach mewn cytgord â natur, mewn cymuned â naw o dyddynnod. Gwelir y rhain mewn lluniau sy’n dangos cartrefi ar Dir y Gafel a fowldiwyd o ddeunyddiau naturiol yn bennaf.

Mae gan ddelweddau Amanda deimlad diamser rywsut. Mae ‘YouTube Friday’, er enghraifft, yn gyfeiriad amlwg at y presennol wrth gwrs ond mae’r ddelwedd ei hun yn dwyn i gof oes a fu. Ond a yw’r ffordd hon o fyw mor ddelfrydol mewn gwirionedd ag yr ymddengys? Mae delwedd fel ‘Hwdl’ yn dangos tylwyth teg yn yr ardd ac yn awgrymu mai breuddwyd swynol yw’r holl beth – ond mae’r oedolion sy’n byw ym mhentref Lammas yn ymwybodol iawn bod angen llawer o waith caled er mwyn cynnal eu ffordd o fyw.

Ein braint ni yw cael pip ar y gymuned hon, a frwydrodd yn gyson yn erbyn rheoliadau cynllunio ac adeiladu er mwyn byw eu bywydau effaith-isel.

Ariannwyd cyfres ‘To Build A Home’ gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae detholiad o ffotograffau’r gyfres wedi eu cadw yn archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

Arwerthiant Printiau: Cronfa Ailadeiladu Simon a Jasmine Dale

 

Ar 1 Ionawr 2018, cafodd teulu Simon a Jasmine Dale ei ddinistrio gan dân. Maent yn rhan o Bentref Ecolegol Tir y Gafel / Lammas. Ymddangosodd eu tŷ ar Grand Designs – fe gymrodd hi fwy na phedair blynedd iddynt ei adeiladu.

Rydym ni am helpu Simon a Jasmine i ailafael yn eu bywydau ac rydym yn gobeithio y byddwch chi hefyd.

Bydd yr holl elw o’n harwerthiant o brintiau a chardiau post yn cael ei roi i’r teulu’n uniongyrchol er mwyn eu helpu nhw i ailadeiladu’u bywydau yn y ffordd sy’n gweddu orau iddyn nhw.

Mae Amanda Jackson a Heather Birnie yn ffrindiau a ffotograffwyr a dreuliodd gyfnodau o amser yn ffotograffio Pentref Ecolegol Lammas.

Mae cyfres Amanda, ‘To Build A Home’, yn seiliedig ar bentref Lammas a chymuned gyfagos Tir y Gafel. Cafodd y gyfres hon ei harddangos yn Oriel Mwldan (2014), Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth (2015) a Bae Colwyn (2017). Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw 10 llun o’r gyfres yn ei harchif. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd erthygl gan Amanda am y profiad o fyw gerllaw’r pentref ecolegol yng nghylchgrawn In Clover (Rhifyn 4).

www.amandajaxn.co.uk

Mae cyfres Heather, Eutopia, yn canolbwyntio ar dyddyn Simon a Jasmine ac yn ystyried rôl yr iwtopia mewn metafoderniaeth.

‘Mae teimlad o siom cynyddol yn ein ffyrdd modern o fyw, ynghyd â chanfyddiad o bellter rhwng yr unigolyn a’i werthoedd craidd, yn arwain fel petai at awydd cyffredinol am newid. Mae chwa o obaith a rhamantiaeth yn gwneud i mi ystyried dyfodol amgen a chyraeddadwy; delfrydiaeth bragmatig y gellir ei defnyddio i greu lle da, i greu cartref.’

Cafodd Eutopia ei chyflwyno yn Stiwdios Blackall, Llundain (2015) ac fe’i dewiswyd gan Richard Billingham i fod yn rhan o Sioe Raddedigion 2015 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

www.heatherbirnie.com