Abi Green

Becher

Ar y Wefan

Prosiect personol wedi’i ysbrydoli gan ‘Water Towers’ Bernd a Hilla Becher.

Mae’r triptych ffotograffig o siapiau lliwgar, haniaethol a thrawiadol, yn dangos cyfeiriadau o weithiau ffotograffig y gŵr a’r wraig Almaenaidd, Bernd a Hilla Becher. Am fwy na 40 mlynedd, bu’r cwpwl Becher yn dogfennu pensaernïaeth ddiwydiannol a diflanedig Ewrop a Gogledd America yr 20fed ganrif. Trwy gydweithio â’r dylunydd setiau Amy Friend, bu Abi yn dylunio modelau 3D, gan gymryd ysbrydoliaeth o strwythurau’r adeiladau a’r siapiau concrit a welir yn nelweddau Becher a’u troi’n haniaethol i’w ffurfiau symlaf. Dyma oedd sail cyfres unigryw o siapiau, oedd yn ffurfio hunaniaeth newydd ac yn sianelu ansawdd hynod finimol. Am ei bod hi eisiau chwistrellu lliw a bywiogrwydd i mewn i’r delweddau, mewn gwrthgyferbyniad amlwg â delweddau du a gwyn Becher, roedd y modelau wedi eu goleuo’n ofalus gyda geliau lliw oll o fewn y llun. Er y gellid eu hystyried yn driniaethau graffig, mae’r lluniau mewn gwirionedd yn oleuadau lliw sy’n taro’r modelau 3D gwyn. Torrwyd ffenestri allan i adael i oleuni lliw dreiddio drwyddynt a chreu graddiannau pastel meddal. Mae hi wedi ystyried pob haen o oleuni lliw yn ofalus am fod un ffynhonnell goleuni’n effeithio ar arlliw’r lleill. Yn aml iawn, byddai’r cwpwl Becher yn dangos eu delweddau ar ffurf grid, gan ehangu’r naws graffig cyffredinol. Am ei bod hi eisiau gwthio’r dull gweledol hwn, cafodd y siapiau 3D eu cyflwyno ar blinthiau hirsgwar i greu ailadroddiad a chyfansoddiad pensaernïol. Ei bwriad o’r cychwyn oedd creu ffurfiau oedd yn teimlo’n gyfarwydd ar unwaith, megis strwythur yr adeiladau yng ngwaith y cwpwl Becher, ond roedd y dull newydd yn creu estheteg swrrealaidd ac arallfydol hefyd.