Brian Otieno
The Gentlemen of Kibera
Yn 2013, dechreuais ddogfennu fy nghymdogaeth – Kiberia, sef slym mawr yn Nairobi, Kenya. Mae fy lens yn cael ei dynnu’n aml iawn at yr hyn sydd, i mi, yn enaid i’r gymuned fywiog hon: ei hieuenctid.
Mae’n rhaid i ieuenctid dinesig Kenya a aned ac a fagwyd mewn aneddiadau anffurfiol ac incwm isel ymdopi â llu o heriau, o stigmateiddio i amddifadedd economaidd. Ac eto, mae’r slymiau’n lleoedd o fenter, arloesi, creadigedd a phenderfynoldeb.
Wedi eu gwisgo mewn siwtiau steilus, teis lliwgar, hetiau ac esgidiau lledr, mae pedwar o ddynion ifanc yn Kiberia wedi ffurfio’r “Vintage Empire” – datganiad personol, cymdeithasol a gwleidyddol: tystiolaeth o deithiau amrywiol a gwahanol fathau o realiti y maen nhw’n eu profi ac y maen nhw’n cyfrannu i’r broses o’u siapio.
Iddyn nhw, mae ffasiwn yn ymwneud â mwy na dim ond gwisgo dillad da. Dyma eu ffordd nhw o ail hawlio, ail benodi ac ail ddyfeisio eu hunaniaeth eu hunain, eu llais unigryw a’u lle mewn cymdeithas.
Mae Brian Otiento yn ymroddedig iawn i rannu straeon ei gymuned a’i wlad sydd bron byth yn cael sylw yn y newyddion rhyngwladol. Ers 2013 mae Brian wedi neilltuo ei amser a’i egni i daflu goleuni ar ochr dywyll ei dref fagwrol – mae Kibera yn cael ei phortreadu’n aml iawn fel lle o dlodi, trais a chlefydau. Trwy ei brosiect ‘Kiberia Stories’, mae’n canolbwyntio ei lens ar sbectrwm ehangach o fywyd lle mae gobaith, gwytnwch, uchelgais a synnwyr o gymuned yn gryf. Mae Brian wedi’i ymroddi i gyffredinoli a rhoi gwedd ddynol i’r naratif traddodiadol sy’n aflunio’r ffordd y mae pobl yn meddwl am gymunedau difreintiedig ac yn eu diffinio.