Dan Wood

BWLCH-Y-CLAWDD


Edrychwch ar y wefan

Gweld Prosiect

Mae Bwlch-y-Clawdd, a adeiladwyd yn 1928, yn heol fynyddig (450m) sy’n cysylltu Cwm Rhondda yn Ne Cymru a’r dref lle cefais fy ngeni, a lle’r ydw i’n dal i fyw, Pen-y-bont ar Ogwr. Y mae hefyd yn cysylltu â Chwm Afan ar hyd yr A4107, sy’n arwain at arfordir a thref ddiwydiannol Port Talbot. Mae heol y Bwlch ei hun, yr A4061, yn rhedeg am oddeutu 25 milltir o Gwm Parc, heibio tarddiad Afon Ogwr, gan ddilyn hynt yr afon honno’n ddigon ffyddlon tan iddi gyrraedd Pen-y-bont ar Ogwr. Nid yn unig yr oedd yr heol yn llwybr i’r cymoedd anghysbell, ac yn fodd felly i gyflwyno mwy o gyfleoedd am waith i’r bobl leol, yr oedd hefyd yn llwybr hanfodol i economi lofaol y cymoedd. Fe ddefnyddiodd fy rhieni y llwybr pan symudon nhw i Ben-y-bont ar Ogwr ym 1966 (a dechrau eu busnes eu hunain yno yn fuan wedyn). Y naill ochr a’r llall i gopa’r Bwlch mae hen gymunedau glofaol Nantymoel a Cwm Parc – mae’r trigolion yn byw yng nghysgod parhaol y mynydd. Amcan y gyfres hon yw dogfennu nid yn unig harddwch y darn eiconig hwn o dirwedd De Cymru ond hefyd ymwneud y bobl leol ag ef.

Yn seiliedig yn fras ar atgof a hiraeth, mae ‘Bwlch y Clawdd / Gap in the Hedge’ yn adlewyrchu fy siwrnai wythnosol pan yn fachgen ifanc – mynd yng nghwmni fy mam, bob dydd Sadwrn, i ymweld â pherthnasau yng Nghwm Rhondda. Roedd y teithiau hyn yn flas cyntaf o deithio a gallaf ddwyn i gof bron bob modfedd o’r daith. Byddwn yn eistedd yn sedd flaen car bach coch fy mam ac yn ymgolli’n llwyr yn y coedwigoedd, y tai teras a rhybuddion yr arwyddion ffyrdd bod perygl i greigiau syrthio. Ymddangosai’r daith yn ddiderfyn ond rhyw 30 munud ar y mwyaf oeddem ni o’n cartref. Dw i hefyd yn cofio ambell fan o ddiddordeb lleol, marciau personol plentyn, a oedd fel petai’n nhw’n fy nghymell i’w harchwilio, stopio’r car a mynd i edrych. Efallai mai hynny oedd prif destun fy niddordeb yn y cymoedd fel enigma corfforol; mae’r Bwlch yn ardd gefn yr wyf i’n ddieithryn ynddi – fi yw’r unig aelod o’m teulu agos na chafodd ei eni yn y cymoedd. Roedd y gyfres hon yn gyfle i mi stopio’r car a mynd allan i edrych, felly; i archwilio a dechrau adnabod fy mamwlad.