Ellie Hopkins

HEN WLAD FY NHAD


Edrychwch ar y wefan

Tynnwyd y ffotograffau canlynol rhwng Mawrth 2014 a Mawrth 2015 ym mhentref cyn-lofaol Treharris yn Ne Cymru. Maent yn gofnod o daith bersonol oddi mewn i naratif ehangach. Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd ym 1989 a threuliais ddwy flynedd gyntaf fy mywyd yn Nhreharris, cyn symud i ffwrdd pan gafodd fy nhad (brodor o Dreharris) swydd yn y Canolbarth.

Pan oeddwn i’n byw yn Nhreharris, roeddwn i’n ifanc iawn. Roedd y pwll glo lleol, Deep Navigation, yn dal ar agor, ond cael a chael oedd hi ac mae fy atgofion ohono’n estyn ddim pellach na’r golygfeydd o’r offer weindio o ffenestr ystafell ymolchi fy Mam gu. Dw i ddim wedi byw yng Nghymru ers i fy rhieni a mi symud i ffwrdd, ond byddem yn mynd yn gyson i ymweld â fy Mam gu a oedd yn byw ar Webster Street, dafliad carreg o Deep Navigation. Mae fy holl atgofion o Dreharris yn troi o’i chwmpas hi; wrth edrych yn ôl, caf fy atgoffa o’r iard gefn – a oedd yn llawn lympiau glo bob amser – y lamp glöwr bychan coffaol hwnnw y tu ôl i’r teledu, a lluniau o’i theulu a’i ffrindiau annwyl yn frith ar hyd yr ystafell fyw. Roedd popeth a wnâi yn llawn cynhesrwydd a haelioni. 

Bu farw fy Mam gu yn 2009. Ar wahân i ymweliad byr i gladdu ei lludw, doeddwn i ddim wedi bod yn ôl i Dreharris tan i mi benderfynu cychwyn ar y prosiect hwn. Roeddwn am fynd i’r afael â Threharris heb fy Mam gu ac, wrth wneud hynny, geisio deall nid yn unig fy ngholled fy hun, ond y golled ddiwydiannol sy’n treiddio i Dreharris a threfi glofaol di-ri eraill a gafodd eu chwalu gan ôl-ddiwydiannu. Roedd Treharris bron â bod yn gartref i mi ac roeddwn i’n awyddus i ddatrys y datgysylltiad a deimlwn tuag at y lle.

Y teimlad o ryddid ac o emosiwn y daith gychwynnol – y tro cyntaf i mi fod yn Nhreharris heb adnabod neb yno – a daniodd fy niddordeb yn y pictiwr mwy. Dw i eisiau defnyddio’r gwaith hwn i ddechrau sgwrs am Dreharris a chymaint o drefi eraill o’r fath, sydd fel petaent wedi cael eu hanghofio gan bawb ond y rheiny sy’n byw yno; trefi y mae’r rheiny a chanddynt y pŵer i’w helpu yn dweud amdanynt eu bod y tu hwnt i achubiaeth.

Yn ystod y prosiect hwn, dw i wedi ymdrechu i ailystyried ac ail-lunio fy nelwedd fy hun o Dreharris – lle sydd yn falch o’i hanes ond yn sownd mewn limbo lle na chaiff hanes na dyfodol eu cydnabod yn llwyr. Ond mae’n lle sy’n llawn o’r bobl fwyaf hael a charedig i mi ddod ar eu traws erioed. Mae’r bobl yna’n haeddu gwell na distryw yr oes ddiwydiannol, ac maent yn ymwybodol o hynny. Maent yn byw mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol – sydd yn tynnu’n groes i’r amgylchiadau economaidd-gymdeithasol anobeithiol. Dw i’n gobeithio nad dyma ddiwedd eu stori nhw a dw i’n ddiolchgar bod y prosiect hwn, os dim byd arall, wedi rhoi rheswm imi ddychwelyd i Hen Wlad Fy Nhad.

Mae Ellie yn ffotograffydd ac ymchwilydd ac yn byw yn Glasgow.  Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio tuag at radd PhD ym Mhrifysgol Stirling. Mae ei gwaith ymchwil yn ystyried y modd y caiff “Cymreictod” ei greu mewn ffotograffiaeth ddogfennol.