James Hudson

Volution


Nifer o Leisiau, Un Genedl


Artist graffig a ffotograffydd yw James Hudson sy’n gweithio’n bennaf ar brosiectau ffuglen sy’n cyfuno ffotograffau, testunau a gludwaith. Mae ei weithiau cynnar yn cynnwys prosiectau ffotograffig am y syrcas, parciau sglefrio, diwydiant a hen geir. Yn 2010-2011 treuliodd James gyfnod fel artist preswyl yn Amgueddfa Ashmolean yn Rhydychen gan gynhyrchu llyfr a ysbrydolwyd gan straeon Ovid am Fetamorphosis. Mae ei waith wedi’i gynnwys yng Ngŵyl Fformat a Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd. Yn 2019 cafodd gymhwyster ôl-radd mewn Celfyddydau Graffig ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Ar hyn o bryd mae’n cwblhau prosiect hirdymor am ddieithrio trefol, hunanladdiad a bygythiad terfysgol canfyddedig o’r enw ‘Dim byd i boeni amdano’. Datblygodd ei waith yn ddiweddar i gynnwys testun a gludwaith gyda dilyniannau o ffotograffau heb eu plethu; gwaith sydd wedi’i seilio ar waith dogfennol ond wedyn wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno fel ffuglen. Mae cyfarfyddiadau ar hap yn parhau’n allweddol i’w broses waith, ac mae hanes a llenyddiaeth yn darparu’r ysbrydoliaeth thematig yn aml.


Briff y Prosiect

Mae James Hudson yn adrodd hanes taith feicio oddi ar y ffordd o Senedd hanesyddol Machynlleth i’r Senedd heddiw yng Nghaerdydd. Crëwyd syniadau a deunydd ar gyfer y stori wrth feicio ar hyd y llwybr, wrth i’r artist sylwi ar yr amgylchedd ffisegol a chael cyfarfyddiadau ar hap â phobl. Mae’r bererindod fodern hon yn ein hatgoffa bod yna Senedd yn y gorffennol yng Nghymru, yn ogystal â bod yn ddathliad o hanes a chynnydd democrataidd Cymru. Mae beicio yn weithgaredd cadarnhaol, cynhwysol ac yn rhan allweddol o’r Ddeddf Teithio Llesol a basiwyd gan y Senedd yn 2013. Mae hanes diddorol i feicio mynydd yng Nghymru hefyd, ac o ganlyniad i ddatblygiadau ym maes beicio o’r fath ledled y wlad mae ei ddyfodol mewn dwylo diogel, ac eisoes mae rhannau o Gymru’n cael eu hystyried fel y llefydd gorau ar gyfer beicio mynydd yn y DU. Fel gwaith ffuglen celf graffig, yn hytrach na gwaith dogfennu symlach, nod y prosiect yw amlygu gweithgaredd, hanes a gwerth beicio mynydd a’r Senedd i gynulleidfaoedd newydd.