Maheder Haileselassie Tadese

Home: Walls


Rwy’n dychmygu waliau fel darparwyr naratif darniog, platfform o fynegiant isymwybodol a rhoddwr cyd-destun i’r hunaniaeth sydd wedi’i ymwreiddio yn eu perchnogion.

Drwy waliau mannau cyhoeddus a phreifat, rwy’n archwilio fy nealltwriaeth fy hun o deulu, hanes, bri, hiraeth a dymuniadau mewn cyd-destun trefol. Rwy’n portreadu’r perchnogion drwy dynnu lluniau o’u waliau. Rwy’n holi “beth mae pobl yn ei roi ar eu waliau?”

Yn dibynnu ar y ddemograffeg, yr unigolyn neu’r statws, mae gan waliau wahanol swyddogaethau i wahanol bobl. Mae rhai waliau’n dangos ffotograffau o arweinwyr dadleuol y gorffennol tra bo eraill yn arddangos gwraidd crefyddol cryf y wlad neu’r balchder sydd ganddynt yn eu teuluoedd.

Mae ein waliau’n dangos y ddeuoliaeth teimlad sy’n datblygu yn ein meddyliau mewn oes o weddnewid sy’n symud yn gyflym. Mewn un ffordd, mae hyn yn deillio o synnwyr cryf o berthyn, traddodiad a balchder a ddaw o hanes y wlad. Mewn ffordd arall, mae gwybodaeth, globaleiddio a synnwyr o ddyheu am yr hyn sydd ar ochr arall y ffens a beth sy’n bodoli y tu hwnt i’n taith anhrefnus ni ein hunain i greu ein iwtopia dychmygol ein hunain.

Trwy gyfrwng y gyfres hon, rwy’n gobeithio codi’r cwestiwn o hunaniaeth a chartref yn hytrach na’i ateb. Rwyf eisiau sbarduno cwestiwn yn y gwyliwr am hunaniaeth y rheiny sy’n berchen ar y wal ac sy’n ymwneud ag o bob dydd.


Mae Maheder Haileselassie Tadese (g.1990) yn ffotograffydd sydd wedi ei seilio yn Addis Ababa, Ethiopia. Daw ei hysbrydoliaeth i dynnu lluniau o’i hanes, hunaniaeth, ac atgofion hi ei hun a rhai’r bobl mae hi’n ymwneud â nhw bob dydd.

Cafodd ei derbyn ar raglenni clodfawr fel adolygiad Portffolio Efrog Newydd 2019 a Dosbarth Meistr Ffoto World Press Dwyrain Affrica a rhoddodd gyflwyniad yng Ngŵyl RAY, Yr Almaen yn 2018.

Mae hi hefyd yn cyfrannu i @everydayafrica ar Instagram ac, yn ddiweddar, sefydlodd Center for Photography in Ethiopia (CPE), sef platfform dysgu a thrafod i Ffotograffwyr o Ethiopia.

Mae Maheder wedi bod yn gweithio i sefydliadau newyddion mawr fel AFP, Reuters, Getty Images, Le Monde a Der Spiegel. Yn ddiweddar bu Maheder yn curadu’r arddangosfa ffotograffeg dan y teitl Baxxe:Home ac mae hi hefyd wedi cydolygu cyhoedddiad ffotograffeg dan y teitl Against Gravity. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn llawer o arddangosfeydd o amgylch y byd.

Ar y Wefan | Instagram