Mai Al Moataz

Proof of Presence II


Ar y wefan

Gweld prosiect

Cyfuniadau o ddau negydd wedi eu haenu a’u gosod o dan wydr ar waelod chwyddydd stafell-dywyll, gydag amserau amlygu o 99 eiliad a lluosrifau hynny. Saethwyd y negyddion ar ffilm du a gwyn â chamera fformat-mawr. Caiff y printiau cyswllt gelatin arian, a gynhyrchir ar bapur ffotograffig pwysau-dwbl naws-gynnes sensitif i oleuni, eu sefydlogi ddwywaith i atal afliwio. Y canlyniad terfynol yw cyfres o lenni aml-haenog wedi eu harosod ar ei gilydd, lle bydd rannau o’r delweddau’n ymddangos drwyddynt ddim ond pan fydd y goleuni’n treiddio trwy’r ddau negydd.

Artist, casglydd rhosod marw, a dylunydd gofodau yw Mai Al Moataz. Ers degawd, mae wedi defnyddio ffilm du a gwyn i gynhyrchu ffotograffau trwy broses stafell-dywyll analog, fanwl-gywir, defod sy’n gatharsis dwys. Mae ei delweddau’n rhamantus o unig ac arallfydol, wrth iddynt gyflwyno symbolau o unigrwydd, dyheu, hiraeth a benyweidd-dra. Ag awgrymiadau o arwahanrwydd wedi eu britho gan ddychymyg, mae’n archwilio testunau ei phortreadau fel paradocs y mewnol yn erbyn yr allanol, a’r lle y byddant yn cwrdd, gan ddefnyddio amser a lle i ddadelfennu bydysawd o brofiad.
Cafodd ei gwaith ei arddangos mewn nifer o sioeau, yn cynnwys Vantage Point 4 yn Sefydliad Celf  Sharjah (2016), Food is Culture yn Amgueddfa Genedlaethol Bahrain (2017), Tadafuq / Flow fel rhan o Wythnos Gelf 21,39, Jeddah (2017), Ffair Gelf Sikka (2017), Do You Trust Me?, sioe ar y cyd rhwng Sefydliad Goethe a Thŷ Bin Mattar, Bahrain (2017), Femmes: Par Des Artistes Femmes Bahreinies yn Unesco, Paris (2017), Sioe Flynyddol Celfyddydau Cain Bahrain (2018), Mnwr gydag Oriel Hafez fel rhan o Wythnos Gelf 21,39 Jeddah (2018), a chydag Oriel Hafez ar gyfer Wythnos Orielau yn Warws 421, Abu Dhabi (2018).
Enillodd ei chyfres Proof of Presence Wobr Ffotograffiaeth Art Jameel.