Moath Alofi
People of Pangaea
Yn y gyfres hon, mae ffotograffau o’r awyr yn troedio’r ffin rhwng realiti a ffuglen. Mae lluniau o dirwedd, anialdir a lloerwedd yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau o ran eu lleoliad a’u gwreiddiau. Trwy godi cwestiynau a chymysgu atebion mae People of Pangaea, heb os, yn cyflwyno rhyfeddodau. Mae’r ffotograffau o’r ffurfiannau anomalus hyn, y credir bod yr hynaf ohonynt yn 9,000 o flynyddoedd oed, yn lluniau o’r awyr a dynnwyd dros ardal dinas sanctaidd Medina a’r rhanbarth mwy o’i hamgylch. Peilotiaid ym mlynyddoedd cynnar yr 1920au welodd y patrymau hyn sydd wedi eu creu dros y tir a’u hadnabod fel gatiau, barcudiaid neu allweddi. Mae pob un yn ymestyn dros ddarnau enfawr o dir ac maent wedi eu creu drwy osod cerrig folcanig yn drefnus ac yn amlwg. Yn People of Pangaea, mae Moath yn cwestiynu hanes – beth yw gwerth ei orffennol a beth yw ei berthynas gyda’i bresennol. Cafodd yr artist hwn ei eni a’i fagu ym Medina, ond nid yw’n cofio unrhyw sôn am y strwythurau dirgel hyn, ac eto mae pobl wedi eu nodi ers yr 1920au. A fyddai gwybod amdanynt wedi newid ei ddealltwriaeth o’r presennol, ac a fyddai wedi effeithio ar ei ddehongliad o’r gorffennol?
Ganwyd Alofi ym Madina, Saudi Arabia yn 1984. Mae’n artist, ymchwilydd, fforiwr ac, ar hyn o bryd, mae’n Bennaeth Rhaglenni Diwylliannol yn Awdurdod Datblygu Madina. Yn ogystal â rheoli Canolfan Gelfyddydau Madina, Moath yw Sylfaenydd y stiwdio artistig Al-Mthba hefyd, a Chyd-sylfaenydd Tîm Erth. Enillodd ei radd BA mewn Rheoli Amgylcheddol a Datblygiad Cynaliadwy o Brifysgol Bond yn Gold Coast, Awstralia. Yna, gan drin y ddinas sanctaidd fel ei stiwdio ac amgueddfa agored, cychwynnodd Moath ar daith o ddogfennu ffotograffig yn 2013. Gyda ffocws ar arteffactau diwylliannol, treftadaeth a thrysorau cudd, mae Moath wedi ehangu ers hynny i ddogfennu ac archwilio’r Rhanbarth Madina mwy, yn ei ysblander diffaith a dinesig, ynghyd â Theyrnas Saudi Arabia gyfan. Trwy gydol ei yrfa artistig, mae Moath wedi arddangos gwaith yn Jeddah, Riyadh, Dammam, Bahrain, Oman, Llundain, Paris, Bruxelles, Moscow, New Mexico, ac Utah.