Richard Allenby-Pratt

Abandoned


Ar y Wefan

Gweld Prosiect

Mae’r prosiect Abandoned yn dychmygu Dubai a adawyd yn wag mewn cyfnod yn y dyfodol agos. Wedi i ynni adnewyddadwy gymryd lle olew fel tanwydd cyffredin, fe gwympodd y diwydiant olew ac achosi brwydro ar hyd a lled Geneufor Arabia.
Cyn ffoi, aeth gofalwyr pob sw, parc bywyd gwyllt a chasgliad preifat o anifeiliaid drwy’r Emiraethau Arabaidd Unedig i gyd ati i agor gatiau a chewyll eu hanifeiliaid.
Arhosodd rhai o’r anifeiliaid yn eu cewyll a marw yno, ond dihangodd llawer ohonynt allan i’r strydoedd gwag.
Yn ystod y cyfnod o adeiladu mawr ym mlynyddoedd cynnar y 21ain ganrif, roedd llawer o’r gwaith cloddio ar safleoedd adeiladu wedi torri i lawr heibio’r lefel trwythiad bas ar yr arfordir, gan greu gwerddonau hunan-gynhaliol. Daeth adar ymfudol yno oedd wedi eu denu gan y dŵr ffres, a chyflwynodd y rhain blanhigion o wledydd eraill. Drwy’r ddinas gyfan, mewn parciau, mannau wedi’u tirlunio a gerddi, roedd priddoedd cyfoethog a fewnforiwyd wedi helpu i feithrin tyfiant planhigion a glaswelltydd, am fod y planhigion oedd yn dibynnu ar ddyfrhau wedi marw. Trodd ochrau cysgodol yr adeiladau uchel yn arbennig o wyrdd.
O fewn mater o flynyddoedd roedd ecosystem newydd, yn cynnwys mathau brodorol ac egsotig, yn dechrau ei sefydlu ei hun.

Cychwynnodd Richard Allenby-Pratt ei yrfa ym maes ffotograffiaeth fel cynorthwyydd mewn stiwdio masnachol yn Llundain yn 1988. Mae wedi gweithio mewn ffotograffiaeth fasnachol yn barhaus ers hynny, a symudodd i Dubai yn y flwyddyn 2000. Tua’r un cyfnod â’r argyfwng ariannol yn 2008, dechreuodd droi ei sylw at brosiectau personol a’u harddangos, gan gymryd diddordeb arbennig mewn economeg a chynaliadwyedd. Yn ogystal â thair arddangosfa solo yn Dubai, mae ei waith wedi ei gynnwys mewn amrywiol sioeau grŵp a rhaglenni gwobrau o amgylch y byd. Symudodd Richard i ardal wledig Suffolk yn y Deyrnas Unedig y llynedd ac, erbyn hyn, mae’n ceisio ymgynefino â’r tirlun gwyrdd unwaith eto.