Rob Hudson

THE SECRET LANGUAGE OF TREES


Edrychwch ar y wefan

Gweld Prosiect

“An elsewhere world, beyond Maps and atlases, Where all is woven into And of itself, like a nest Of crosshatched grass blades” Seamus Heaney.

Pan ddes i ar draws gwaith y coedwigwr a’r ymgyrchydd amgylcheddol Peter Wohlleben am rwydweithiau ffwngaidd mycorrhizal, bu’n rhaid i mi ailystyried fy nealltwriaeth o goed ac ystyried sut – ar wyneb y ddaear, yn llythrennol – y gellid cynrychioli’r ddealltwriaeth newydd honno. Canlyniad hynny oedd ymateb barddonol i harddwch y syniadau a geir yn y gwaith, a chyfres o ffotograffau a elwais “The Secret Language of Trees”.

Y gred gyffredin ers peth amser yw bod coed, mewn termau Darwinaidd syml, yn cystadlu â’i gilydd am oleuni a maetholion. Ond mae gwyddoniaeth fodern yn dechrau datod y tybiaethau hyn. Ymddengys bellach nad yw coed yn cystadlu â’i gilydd a’u bod yn bodoli, yn hytrach, mewn gwe gymhleth o wreiddiau a ffyngau rhyng-gysylltiedig sy’n cael eu hadnabod gan rai fel y “Wood Wide Web”. Mae Peter Wohlleben hyd yn oed yn awgrymu nid yn unig bod coed yn gallu cyfathrebu ond eu bod hefyd yn rhannu maetholion er mwyn cynnal ei gilydd. Disgrifiodd Robert Macfarlane y darganfyddiad hwn fel “rhan o chwyldro ymchwil sy’n newid ein ffordd o feddwl am goedwigoedd.”

Mae goblygiadau’r darganfyddiad hwn yn bellgyrhaeddol nid yn unig o ran ein dealltwriaeth o goedwigoedd ond hefyd o ran y ffordd y gallwn ac y dylem fynd ati i reoli a datblygu coedwigaeth. Efallai fod yma neges hefyd ar gyfer bodau dynol “uwchraddol” honedig, sydd yn gweld y syniadau hyn yn ein perthynas â’n gilydd ac â’r byd naturiol.

Yn “The Secret Language of Trees” ceisias chwilio am gliwiau gweledol sy’n tystio i gysylltedd a chyd-feithrin y naill a’r llall. Fe all y patrymau ymddangos yn haniaethol ond mae hi’n bosib hefyd fod yna gyd-chwarae rhwng y bod dynol sy’n creu’r delweddau hyn a’r coed eu hunain. Nid gwaith dogfennol yw hwn yn ôl y diffiniad arferol; mae f’agwedd yn oddrychol ac mae haenau lluosog o ddylanwadau gweledol yn effeithio arnaf. Ond efallai bod angen llygaid dynol er mwyn gallu dehongli.

Yn ei lyfr diweddar, The Song of Trees, dywed yr awdur, ac enillydd Gwobr Pulitzer, David George Haskell, “Nid yw’r goedwig wedi’i gwneud o haniaethau. Nid yw hi wedi’i ffurfio hyd yn oed o wrthrychau unigol sy’n rhyngweithio â’i gilydd. Yn hytrach, mae’r goedwig wedi’i gwneud o ‘berthynas’. Mae ymuno â’r sgwrs anferthol hon yn fodd o gysylltu ein cyrff a’n hymennydd â chreaduriaid a phrosesau sydd y tu hwnt i ni ein hunain.” Dw i’n credu mai “perthynas” yw’r gair allweddol – datgelwyd hynny i mi gan f’astudiaethau gweledol.

Cafodd y lluniau yn gyfres eu creu ar sail bancyn digon cyffredin o goed sy’n sefyll uwchben hen gamlas ger fy nghartref yng Nghaerdydd. Dewisais y lle hwn am ei fod yn hygyrch ac hefyd am ei fod y math o fancyn coediog y gellid dod o hyd iddo yn unrhyw le yn y DG. Hynny yw, nid yw’n egsotig ac nid yw’n debygol o gwympo, felly, i drap arferol ffotograffiaeth dirluniol. Cyffredinedd y fan, yn benodol, a apeliodd ata’ i. Ac fel tir coediog nad oes yna reolaeth benodol ohono, mae’n ymdebygu i dir gwyllt – os gellir synied am dir gwyllt mewn tirwedd sydd yn cael ei siapio’n gynyddol gan weithgarwch dynol.

Mae rhan uchaf y bancyn cyffredin hwn o goed yn estyn am ryw filltir ac mae disgwyl y caiff y tir ei ddefnyddio cyn hir ar gyfer ysbyty newydd. Hwn fydd y datblygiad newydd cyntaf yn y fan ers adeiladu’r gamlas dros ganrif yn ôl.

Bu effeithiau posib y gwaith adeiladu ar y coed hyn – sydd ar ymyl gwarchodfa natur drefol – a’r amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt yn y fan yn destun tipyn o ddadlau yn ystod y cais cynllunio. Bu llawer o sôn am “liniaru effeithiau” – ond mae hynny’n ymddangos i mi fel ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus, rhyw fath o blaster ar y briw, yn hytrach nag ateb go iawn i’r niwed a wneir i ecosystem gymhleth.

Efallai y dylai ein hymwybyddiaeth gyfoes o gydgysylltedd beri i ni oedi ac ystyried. Efallai na fydd plannu coed newydd yn gwneud iawn am y coetir hynafol a gollir – coed a dyfodd dros gyfnod o gannoedd o flynyddoedd. Does gen i ddim atebion, fel y cyfryw. Dw i’n ddim ond ffotograffydd cyffredin – ond byddaf yn chwilio am dystiolaeth ac yn defnyddio’r gwaith hwn i godi ymwybyddiaeth ymhlith y rheiny sydd yn ymwneud â’r penderfyniad.

Mae’n debyg ei bod hi’n rhy hwyr i newid tynged y safle arbennig hon, a chaniatâd cynllunio eisoes wedi’i gymeradwyo. Ond rwy’n gobeithio y bydd y darganfyddiad y soniais amdano uchod – am gyd-ddibyniaeth coed – yn cael effaith debyg i effaith darganfod cân y morfil: o glywed cerddoriaeth morfilod, fe ddechreuon ni eu gwerthfawrogi nhw go iawn. A ninnau wedi clywed cân y coed bellach, efallai y dechreuwn ni werthfawrogi go iawn ein fforestydd hefyd.

 


Mae Rob Hudson yn ffotograffydd tirluniol ac awdur a anwyd yng Nghwm Rhymni ym 1968. Yn byw bellach yng Nghaerdydd datblygodd weledigaeth o ffotograffiaeth dirluniol sy’n ymhél â materion ecolegol ac sydd yn ceisio datblygu ein gwerthfawrogiad o’n tir trwy rannu straeon am ein profiadau ohono. Mae ymwneud agos â’r amgylchfyd lleol yn ei alluogi i ddatblygu ffyrdd newydd o fynegi’r profiadau hyn ac i feirniadu’r modd y cafodd y tirwedd ei bortreadu yn y gorffennol.

Mae ei waith, a gaiff ei ddylanwadu’n helaeth gan farddoniaeth, yn ei alluogi i archwilio syniadau am drosiad a naratif yn ei ffotograffiaeth. Yn 2014, ef oedd y cyntaf i sylweddoli arwyddocâd y ffotograffau a dynnwyd gan y bardd Edward Thomas yn ystod ei daith o Lundain i Wlad yr Haf yn 1913 – taithy a ysbrydolodd waith rhyddiaith Thomas, In Pursuit of Spring. Cafodd fersiwn newydd o’r llyfr hwnnw ei gyhoeddi maes o law gan Little Toller Books – argraffiad a oedd yn cynnwys ffotograffau Thomas.

Mae Rob yn un o gyd-sylfaenwyr grŵp ffotograffiaeth dirluniol Inside the Outside – nod y grŵp yw “cyflwyno’r gofod trothwyol rhwng y geiriau sydd yn bodoli cyn ac oddi mewn i ni”.

Dangosodd ei waith ledled y DG ac mae e’n gobeithio arddangos gyda grŵp Inside the Outside yn nes ymlaen eleni. Ysgrifennodd yn helaeth hefyd ar ran ystod eang o lyfrau a chylchgronau.