Yoriyas Yassine Alaoui

Casablanca Not the Movie


Mae ‘Casablanca Not the Movie’ yn brosiect tymor hir a gychwynnais yn 2014. Mae’n llythyr cariad i’r ddinas a alwaf yn gartref i mi, ac yn ymdrech i gywiro’r ddelwedd ohoni sydd gan y bobl hynny sydd heb weld dinas enwog Moroco heblaw mewn lluniau llyfrau gwyliau, mewn ffilmiau neu mewn straeon ffantasi gwledydd y Dwyrain. Mae teitl y prosiect yn cyfeirio at Casablanca, y ffilm glasurol o 1942 na chafodd ei ffilmio yn y ddinas honno fel mae’n digwydd, ond yn hytrach mewn stiwdio yn Hollywood.

Daeth ‘Casablanca Not the Movie’ yn gyfres oedd yn ymwneud ag agweddau cymdeithasol a diwylliannol bywyd y ddinas, gweddnewidiad y ddinas a’r newidiadau o’i mewn, ac oll wedi eu siapio gan donau niferus sydd fel petaen nhw’n gwrthdaro â’i gilydd. Yma, drwy un ffotograff, mae’n bosib y gallwn weld, mwynhau, meddwl, gofyn cwestiynau a gofalu fwy am olygfa na fydden ni wedi sylwi arni mae’n debyg os na fyddai wedi ei dal mewn llun.

Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn dogfennu’r ddinas a’i phobl, ond hefyd fy mherthynas, fy mhrofiadau a’m hatgofion personol i o’r ddinas hon. Felly, mae’r gyfres hon yn gipolwg gan rywun o’r tu mewn ar realiti bywiog dinas fwyaf Moroco o safbwynt gŵr o Foroco, a aned ac a fagwyd yno ac sy’n dal i fyw yno.


Mae Yoriyas Yassine Alaoui, a elwir hefyd yn Yoriyas, yn ffotograffydd ac artist perfformio sydd wedi ei seilio yn Casablanca.

Yn aml iawn, mae gwaith Yoriyas yn arsylw greddfol ar le dinesig/cyhoeddus ac mae’n dogfennu bywyd dyddiol a newid. Mae ei luniau wedi ymddangos yn y New York Times a’r National Geographic. Mae wedi derbyn nifer o wobrau, yn cynnwys dyfarniad Les Amis de l’Institut du Monde Arabe am Greadigaeth Arabaidd Gyfoes 2019 a 7fed gwobr Ffotograffiaeth Affricanaidd Gyfoes yn Photo Basel 2018.

Mae ei waith wedi ymddangos ar draws y byd, gan gynnwys yn y Sefydliad HERMÈS ym Mharis ac yn 836m Gallery yn San Francisco, a gofalodd am ‘Sourtna’, arddangosfa agoriadol Amgueddfa Ffotograffiaeth Genedlaethol Moroco yn Rabat.

Yn ystod pandemig y coronafeirws, cafodd Yoriyas ei ddewis gan y New York Times i fod yn un o’r ‘artistiaid i’w dilyn’ a derbyniodd arian Cronfa Argyfwng COVID-19 gan National Geographic.

Ar y Wefan | Instagram