Mohammed Al Kouh

Untold Stories


Ar y Wefan

Gweld Prosiect

Mae storïau wedi cael effaith emosiynol arnaf i erioed. Pan oeddwn yn blentyn byddai’n well gen i glywed storïau gan fy mam na’u gwylio nhw ar y teledu neu eu clywed gan unrhyw un arall. Roedd fersiynau fy mam bob amser yn bur a diddorol. Rwy’n cofio gofyn iddi adrodd yr un straeon bob nos, drosodd a throsodd am flynyddoedd. Dechreuais ddychmygu pob manylyn bach yn y straeon hyn nes daethent yn rhyw fath o realiti i mi mewn rhywbeth oedd yn edrych fel breuddwyd! Mewn breuddwydion rydych bob amser yn harddach nag ydych mewn gwirionedd. Rydych bob amser yn hapus a gyda’ch anwyliaid a does neb yn mynd i’ch brifo. Ond wrth i mi fynd yn hŷn dechreuais anghofio’r straeon yma. Sylweddolais ei bod hi’n amhosibl byw mewn breuddwyd drwy’ch bywyd neu byddech yn byw rhyw fath o gelwydd. Ar y pwynt yma y penderfynais fy mod eisiau ail-greu fy mreuddwydion drwy greu bydysawd paralel lle gallwn fod yma ac yno ar yr un pryd. Roeddwn eisiau mwynhau haenau’r enaid dynol. Doeddwn i ddim eisiau tynnu lluniau yn unig, roeddwn eisiau mynegi teimlad y tu hwnt i’r ffotograff. Nid am y pwnc yn unig mae’r rhain, yn hytrach maen nhw’n ymestyn i gynnwys y ffordd y maent yn gwneud i chi deimlo ac yn adrodd stori’r pethau a anghofiwyd a’r pethau nad ydym yn siarad amdanynt bellach.

Ganed Mohammed Al Kouh yn 1984 ac mae’n byw ac yn gweithio yn Kuwait. Mae Al Kouh yn artist a ddysgodd ei hunan sydd wedi archwilio gwahanol agweddau o gelf ers ei blentyndod. Ar ôl graddio o Brifysgol Kuwait gyda BA mewn Gweinyddu Busnes a Marchnata, cymerodd Al Kouh ei angerdd i lefel newydd. Fel plentyn roedd wedi’i gyfareddu gan y syniad o “Ddwyn Eneidiau a’u Cadw mewn Negatifau” a dechreuodd dynnu ffotograffau o bopeth nad oedd eisiau eu colli. Daeth ffotograffiaeth yn ffordd iddo gipio ei hoff enydau mewn bywyd a’u cadw yn ei gwpwrdd. Wrth dyfu, cafodd anawsterau’n addasu i realiti a datblygodd hiraeth mawr am oes na chafodd fyw ynddi, oes pan oedd popeth yn rhamantaidd ac yn hardd. Gyda’i dechnegau ffotograffig sensitif mae’n ail-ddehongli ei isymwybod mewn camau o realiti sy’n creu cyferbyniad rhwng y gorffennol a’r presennol, gan greu rhywbeth sy’n edrych fel breuddwyd ac sy’n gadael iddo fod yn y fan honno ac yn y fan yma ar yr un pryd…