Abbie Trayler-Smith
still human still here
Mae Still Human Still Here yn bwrw golau ysgytiol ar fywydau cudd ceiswyr lloches a gafodd eu gwrthod gan lywodraeth Prydain.
Fe wnes i dreulio blwyddyn yn tynnu lluniau dynion a menywod yn y DU sydd wedi dianc rhag erledigaeth a phoenydio, o wladwriaethau cythryblus fel Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Iran, Irac, Somalia a Zimbabwe. Eu gobaith oedd ffeindio lloches yn y DU. Ond wedi cyrraedd yma a gwneud cais am loches, maen nhw’n gorfod dioddef poenedigaeth newydd yn sgil cael eu gwrthod a’u hamddifadu.
Mae pob person sy’n ymddangos yn y gwaith yma wedi methu cael lloches. Am fod cymaint o ofn arnyn nhw am beth allai ddigwydd pe baen nhw’n dychwelyd i’w mamwlad, maen nhw’n byw yma mewn tlodi enbyd. Gyda dim ond llond llaw o eiddo maen nhw’n symud o le i le, yn cysgu mewn bocsys ffon, ar fysiau nos neu ar feinciau mewn parciau.