Ani Saunders
CARDIFF TO THE SEE
Dechreuodd prosiect Cardiff to the See fel cyfres o ddelweddau’n dogfennu’r newidiadau yn nhirlun y ddinas ôl-ddiwydiannol a oedd yn datblygu’n gyflym o ‘nghwmpas. Roedd gen i ddiddordeb greddfol mewn ceisio creu naratif a fyddai’n cyfuno delweddau hiraethlon y ddinas wlyb, lwyd a diflas y ces fy magu ynddi â’r weledigaeth gyfoes o ddinas lan, fodern ac efallai, digymeriad, sy’n tyfu o’n cwmpas heddiw.
Nid cyflwyno’r ddinas fel y mae hi oedd y bwriad, ond yn hytrach y ddinas fel rwy’n ei gweld hi. Felly, roedd cadw fy argraffiadau o anadliadau olaf yr hen Gaerdydd ar gof yn gyfrwng i danlinellu’r tensiwn a’r cyfosodiad rhwng fy nghanfyddiad i o’r hiraethlon a’r newydd. I ba raddau y dylai treftadaeth adeiledig dinas lywio unrhyw weledigaeth am ddyfodol ac uchelgais y ddinas honno?
O ganlyniad, er i hyn ddechrau fel platfform i gyfleu’r gwahaniaeth rhwng bywiogrwydd lliwgar cymdeithas aml-ddiwylliannol a chynhesrwydd llwm a briwedig yr hen Gaerdydd, fe ddatblygais i arddull ffotograffig anturus a mwy haniaethol: Rwy’n casglu delweddau sy’n dangos y berthynas rhwng pensaerniaeth a golau a’r ddinas fel rwy’n ei gweld hi er mwyn crisialu fy mherthynas i â’i ffurf adeiledig.
Er ychydig yn haniaethol, mae’r cyfnod yma yn natblygiad fy ngwaith eto’n herio’r ffordd ry’n ni’n edrych ar bethau, a sut ry’n ni’n eu gweld. Ar yr olwg gyntaf, gall delwedd ymddangos fel cyfres o streipiau tawel, ond o graffu’n agosach fe welwch mai persbectif gwastad o wal a’i gysgod ac awyr las di-derfyn sydd yno. Fy nod yw herio canfyddiadau o ofod, cyfansoddiad, persbectif a dyfnder drwy fasgio delweddau bob dydd wrth eu cyflwyno fel ffurfiau haniaethol.