Ben Soedira

Foreign Sands


Ar y Wefan

Gweld Prosiect

Mae ‘Foreign Sands’ gan Ben Soedira yn archwilio ystyr ‘cartref’. Wedi byw mewn gwlad ddieithr (o’i chymharu â mamwlad ei rieni) mae Sodedira’n gweld cysgodion dylanwadau sy’n moderneiddio diwylliant a phobl o’i gwmpas ymhobman. Yn y gweithiau ffotograffig yma mae’r tirlun yn drosiadol – yn fynegiad gweledol o ddylanwad twf a datblygiad pobl ar ddinas benodol. Y ddinas dan sylw yw Dubai – dinas a adeiladwyd ar gefn cymaint o elfennau tramor, o’r tywod a fewnforiwyd i’r gweithwyr a fu’n trin ac addasu ei hadnoddau naturiol wrth godi a chreu’r ddinas amhosib hon sy’n sefyll o’n blaen bellach fel petai wedi bod yno erioed. Roedd Dubai yn destun perffaith ar gyfer trafod globaleiddio a’n byd cyfoes.

Mae’r gweithiau ffotograffig yma’n cyflwyno trosiadau cynnil sy’n bwrw golau ar hyn, o’r delweddau o ddillad sy’n plethu gyda’r dirwedd naturiol, i’r gymuned gynyddol o reslwyr Kushti sy’n ymladd i ennill troedle a chartref yma. Ceir adlewyrchiadau o’r anialwch yn y delweddau o dywod a’r machlud; ac fel dinas Dubai, mae’r anialwch hefyd yn dirlun sy’n newid yn barhaus. Wrth hynny, mae Dubai yn ddrych o gymdeithas sydd wedi globaleiddio, yn ddinas a adeiladwyd, ac sy’n byw a thyfu, trwy ddylanwad diwylliannau tramor. Wrth i’r ddinas dyfu a datblygu, mae rhyw fath o ‘amnesia dinesig’ yn cydio ynom ac rydyn ni’n dechrau angofio beth sy’n wirioneddol bwysig, sef y bobl sydd wedi llwyddo i newid cyfeiriad ac ystyr ‘cartref’ drwy greu eu cymunedau arbennig eu hunain a chario eu ffyrdd o fyw gyda nhw i’r ddinas gyfnewidiol hon. Dyma sy’n herio Soedira i gwestiynnu ei ganfyddiadau am gartref a hunaniaeth.

Pan rwy’n meddwl am ‘gartref’, rwy’n gweld Dubai; er mai Glasgow yw fy nghartref ar bapur. Er bod y gwaith yma, o bosib yn ymddangosiadol ddieithr, rwy’n teimlo hefyd fod rhywbeth yma sy’n taro tant gyda phawb, rhywsut – yn enwedig wrth i ni holi cwestiynnau am bwy ydyn ni a natur ein hunaniaeth. Mae ein byd yn teimlo’n llai ac yn llai ac mae popeth a phob man yn agosach bellach. Rydyn ni’n breuddwydio am symud i ffwrdd a chreu cartref newydd yn rhywle arall, sy’n ein harwain i holi ‘o ble ‘dw i’n dod?’. Beth yw gwir ystyr ‘gartref’ i fi? Ac mewn dinas sy’n newid bob dydd rwy’n ymladd i adnabod y lle hwn a chreu cyswllt yma. Mae’n le sy’n teimlo’n rhyfedd o ddieithr a thramor, ac eto rwy’n teimlo’n gyfforddus yma. Er bod yr holl bethau yma’n corddi ynof, rwy’n cyffroi wrth weld fy nghartref yn newid ac ehangu i gyfeiriadau newydd. Mae’n le sy’n caniatâu i bobl o bob diwylliant a chenedl i gario talp o’u mamwlad yma, i’w blannu yn eu cartref newydd.