Ed Brydon

The Singing Hills


Nifer o Leisiau, Un Genedl


Ganed Ed Brydon ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yng Nghaer. Pan oedd yn naw mlwydd oed, ymsefydlodd ei deulu ym Mhorthaethwy lle cafodd ei fagu a ble mae ei dad yn dal i fyw. Ar hyn o bryd mae Brydon yn byw yn Farnham, Surrey, ond mae’n cynnal cysylltiad agos â’r lle mae’n ei alw’n ‘gartre’, sef Ynys Môn. Fel ffotograffydd ac ymfudwr mae gan Brydon ddiddordeb mewn syniadau o ran tir a chartref, a beth yw eu hystyr i bobl, a’r cysylltiadau agos rhyngddynt. Mae ei waith yn seiliedig ar y traddodiad dogfennol ac mae wedi symud drwy esblygiad ffilm i’r maes digidol, ac erbyn hyn mae ei waith yn cynnwys cymysgedd o’r ddau gyfrwng. Fel cyn-wyddonydd, mae Brydon hefyd yn angerddol am wyddoniaeth ac iechyd, yn eu hystyron dynol ac ecolegol ehangaf.


Briff y Prosiect

Er bod llawer wedi clywed am y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, yr Ariannin, mae alltudiaeth rhai Cymry i ogledd America yn llai adnabyddus. Fel rhywun a ymfudodd o Ogledd Cymru i Efrog Newydd, bu Brydon yn chwilio’n gyson am gysylltiad â’i gartref. Un flwyddyn, darganfu Ŵyl Remsen Barn yng nghyffiniau Efrog Newydd, sef ffair bentref a dathliad o dreftadaeth Cymru yn yr ardal. Roedd stondinau ac adeiladau’r pentref wedi’u haddurno â baneri Cymru a’r ddraig goch ym mhob man. Ar ôl hynny, darganfu beth oedd union raddfa’r mewnfudo i America o Gymru, a’r effaith a gafodd hynny.

Arweiniodd y darganfyddiad hwn at weithio ar brosiect y mae’n ei alw’n “The Singing Hills”, a enwyd yn sgîl traddodiad corawl y Cymry, a ddethlir yn eglwysi a chanolfannau cymunedol cyffiniau Efrog Newydd i’r un graddau ag y gwneir ledled Cymru. Drwy bortreadau, tirweddau, a delweddau o fywyd, mae ei brosiect yn portreadu cymunedau Cymru yn America a’u cysylltiadau â Gogledd Cymru. Ei nod yw llunio corff o waith sy’n ffurfio cysylltiad gweledol rhwng y bobl, y tir, a bywyd yng nghyffiniau Efrog Newydd a Gogledd Cymru, eu tebygrwydd a’u gwahaniaethau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.