Fatoumata Diabaté

Man as an Object / Man as an Animal 


Mae’r syniad ar gyfer y gyfres hon wedi ei gysylltu â’r straeon a’r hanesion a glywais yn fy mhlentyndod ac sy’n dal i’m dilyn i bob man heddiw. Mae’r rhain yn straeon sydd wedi eu neilltuo ar gyfer y “plentyn du”, fel y dywedodd Senghor. Ar gyfer y ffotograffau hyn, rwy’n cael fy ysbrydoli gan y straeon sydd yn fy mhen ac yna rwy’n creu gwrthrychau i wasanaethu’r straeon hynny. Weithiau bydd syniadau’n dod i mi yn y nos, pan fyddaf yn gorwedd yn fy ystafell. Cyn mynd i gysgu, byddaf weithiau’n breuddwydio gyda fy llygaid yn agored. Rwy’n edrych, rwy’n ymbalfalu ychydig bob tro. Maen nhw’n bortreadau gweddol syml, sy’n symboleiddio un agwedd o stori. Mae fy nefnydd o wrthrychau fel ategolion neu wisgoedd i ddynion yn gysylltiedig hefyd â’r mygydau Affricanaidd, wedi eu creu mor wych, sydd wedi eu cadw heddiw mewn amgueddfeydd. Rwy’n gadael cyd-destun y mwgwd Affricanaidd traddodiadol, sydd wedi ei gysylltu â defodau a chredoau penodol, ac yn symud ymlaen tuag at rywbeth sydd fwy ar lun gwastraff. Yn aml iawn, rwyf hyd yn oed yn gofyn i’r model greu’r gwrthrych mwgwd hwn ei hun. Mae’n rhaid iddo fod yn wrthrych artisan, mae hynny’n bwysig iawn. Rwyf i, fel ffotograffydd, yn gosod y ddyfais hon yn ei lle, er mwyn rhoi’r straeon yr wyf wedi eu clywed y tu ôl i fygydau, y mae’r bobl ifanc rwy’n tynnu eu lluniau wedi eu creu drwy ailwampio pethau a ganfuwyd. Mae’r rhain yn straeon nad wyf erioed wedi eu byw, mae’r rhain yn straeon a adroddwyd i mi, straeon fel breuddwydion. Pan fyddwn ni’n breuddwydio, rydym yn credu ein bod yn byw rhywbeth yn llawn, ac yna, pan fyddwn yn deffro, rydym yn sylweddoli nad oedd yn realiti, a dydyn ni ddim bellach yn gwybod beth oedd yn ddwfn a beth oedd ar yr wyneb. Felly, mae hyn ychydig bach fel y ‘Dyn fel Gwrthrych’ : mae’r rhain yn straeon fel breuddwydion, ond maen nhw’n gweithio fel gwersi moesegol, straeon sy’n ein dysgu ni sut i ymddwyn mewn bywyd. Sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n gorwedd o’n blaenau, beth allai ddigwydd. Ac hefyd beth yw’r cysylltiad rhwng dyn a gwrthrych. Trwy gyfrwng straeon y gallwn ni ddysgu i deimlo anwyldeb at wrthrychau, anifeiliaid, coed, natur, a mwy. 


Born in 1980 in Mali, Fatoumata Diabaté started out at Promo-Femmes Audiovisual Training Center in Bamako. In Ganed Fatoumata Diabaté yn Mali yn 1980 a dechreuodd ei gyrfa yng Nghanolfan Hyfforddi Glyweledol Promo-Femmes yn Bamako. Yn 2002, hi oedd un o’r merched cyntaf i ymuno â Chanolfan Hybu Hyfforddiant Ffotograffiaeth Bamako (CFP), sy’n gweithio i ddatblygu proffesiynoldeb ffotograffwyr o Mali. Arhosodd yno am ddwy flynedd a daeth yn gynorthwyydd technegol yn y labordy ffotograffiaeth ffilmiau tan 2009. Mae hi wedi derbyn gwahoddiad i lawer o wyliau o amgylch y byd ac mae hi wedi ennill sawl gwobr, yn cynnwys gwobr Africa Creation gan y Gymdeithas Gweithredu Artistig Ffrengig (AFAA) am ei gwaith « Touaregs, in gestures and in movements ». Mae hi wedi cymryd rhan yn y « Rencontres photographiques de Bamako” (2005, 2009, 2011, 2019), yr ŵyl ffotograffiaeth “La Gallicy” (2017) yn ogystal â gŵyl « Voies Off » y « Rencontres d’Arles » (2018) a’r « Biennale de Dakar ». Mae ei gwaith wedi bod dan sylw mewn nifer o arddangosiadau unigol a grŵp yn Mali, yn Ffrainc ac yn rhyngwladol, yn nodedig yn y « Fondation Blachère » (2012), yn y « Musée National du Havre » (2017), yn y « Musée Rouge » yn Canton (China) ac yn y “Shutter Space” yn Chengdu (2019) ar gyfer y Francophonie. Mae hi wedi derbyn nifer o grantiau, yn cynnwys y rheiny gan y Blachère Foundation (2012) a’r Ysgol Celfyddyd Gain yn Nancy (2014-2015). Yn ei hieuenctid, roedd hi’n gynorthwyydd i Malick Sidibé ac, yn 2013, dyluniodd y « Street Photo Studio », sef stiwdio ffotograffiaeth deithiol sy’n cael ei gwahodd gan lawer o wyliau a sefydliadau diwylliannol, The Cartier Foundation ym Mharis (2018) a’r « Rencontres photographiques d’Arles » yn 2019 yn arbennig. Mae ei gwaith wedi arddangos mewn amryw o orielau, yn cynnwys yn fwy diweddar, y 31Project Gallery yn Cape Town, De Affrica (2020). Ers mis Rhagfyr 2017, mae hi wedi bod yn llywydd Cymdeithas Ffotograffwyr Benywaidd Mali. Roedd hi’n guradur arddangosfa yn y « Rencontres photographiques de Bamako » diwethaf. Mae hi newydd gael ei dewis ar gyfer yr ymgyrch ddigidol nesaf i Unescofel, un o’r deg merch sy’n creu yng Ngorllewin Affrica, a chafodd ei henwi’n llawryf 2020 y Ffotograffwyr Preswyl yn Amgueddfa Quai Branly sydd newydd roi prosiect ar waith yn Mali sy’n ymwneud â llurguniad. Mae hi’n rhannu ei hamser rhwng Montpellier yn Ffrainc lle mae hi’n byw, a Bamako yn Mali. 

Website | Facebook | Instagram