Josh Adam Jones
XO
Bwriad Josh gyda’r prosiect yma oedd datgelu a rhannu straeon am gymunedau alltud Muscat yn Oman. Mae XO yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng pobl leol a phobl estron, gan bwysleisio agwedd ddynol bywyd y Dwyrain Canol. Mae dros bedwar deg pump y cant o boblogaeth Muscat yn cael eu cyfri’n alltudion, ac o ganlyniad mae diwylliant cyfoethog, amrywiol a lliwgar wedi tyfu yno. Roedd lletygarwch a charedigrwydd pobl Oman yn aruthrol, a bu Josh yn ddigon ffodus i gael cydweithio gyda phobl yn Llysgenhadaeth Prydain a Choleg Twristiaeth Oman. Yn rhannol, cafodd y prosiect yma ei greu mewn ymateb i gamargraffiadau Gorllewinol am y Dwyrain, a chamliwiad o werthoedd a chredoau’r Dwyrain. Mae Oman yn wlad heddychlon a ffyniannus; yn noddfa ynghanol y gwrthdaro sy’n effeithio’r rhan yna o’r byd.
Mae Josh Adam Jones yn ffotograffydd dogfennol cymdeithasol o Cheltenham. Nod ei ymarfer artistig yw cyflwyno straeon am bobl a llefydd sy’n aml yn cael eu cam-ddehongli. Pan nad yw Josh yn gweithio ar gomisiynau, mae’n gweithio fel cynorthwy-ydd ffotograffig. Mae hefyd yn gweithio ar brosiectau y mae’n eu hariannu ei hunan a’u rhannu trwy gyhoeddi. Mae The British Journal of Photography, It’s Nice That a Then There Was Us wedi rhoi llwyfan cyson iddo rannu ei straeon, mewn print ac ar-lein. Ar hyn o bryd, yn ogystal â chreu gwaith newydd mae Josh hefyd yn astudio’n rhan-amser ar gyfer gradd MA mewn Ffotograffiaeth yn UWE, Bryste.