Luce + Harry


Nifer o Leisiau, Un Genedl


Mae Luce a Harry yn ddeuawd ffotograffig a ffurfiwyd yn ddiweddar sy’n defnyddio cyfryngau newydd, ffotograffiaeth, deunydd archif a deunyddiau eraill i ddod o hyd i ddulliau newydd o adrodd straeon. Mae’r pâr yn hoffi rhannu straeon positif ar lefel leol sy’n cynrychioli symudiadau cymdeithasol ehangach. Rhyngddynt mae eu diddordebau yn rhychwantu technoleg, crefydd, treftadaeth, moeseg; ac unrhyw faes arall, yn wir, sydd â goblygiadau pwysig i bobl heddiw.


Briff y Prosiect

Yn ystod Gwrthryfel Hwngari 1956, daeth 20,000 o ymfudwyr i’r DU, gan ffoi rhag amodau gelyniaethus ar ôl i’r chwyldro gael ei wasgu gan luoedd Sofietaidd. Daeth llawer o bobl i Gymru, a daeth 96 o bobl i Bontypridd ac ymgartrefu yno, a thaid Luce yn eu plith. Bron 65 mlynedd yn ddiweddarach, mae ton newydd o ffoaduriaid Eritre yn ffoi rhag trais cyfundrefn ormesol, ac amgylchiadau sydd eto y tu allan i’w rheolaeth. Croesawyd llawer o bobl gan Gymru unwaith eto. Drwy’r broses o dynnu lluniau, casglu lluniau archif, a recordio cyfweliadau, mae’r artistiaid yn cyflwyno naratif sy’n adlewyrchu profiadau mudwyr Hwngari yng Nghymru; sef, yn adrodd stori am gynhesrwydd, am gymhathu a gwaith caled. Ochr yn ochr â hyn maent wedi tynnu lluniau o’r cymunedau Eritreaidd sydd newydd eu ffurfio, ac sydd bellach â’r un gobeithion. Mae’r prosiect yn hyrwyddo natur groesawgar Cymru, yn dathlu amrywiaeth ei phobl, ac yn rhannu gobeithion a dyheadau teuluoedd Cymru ar gyfer y dyfodol.