Salih Basheer

The Home Seekers


Mae’n chwilboeth. Mae’r tŷ y tu cefn i ni ar ddwy lefel ac yn rhwystro’r gwynt. Gallai Ja`far a Mubarak adeiladu’r tŷ hwnnw ar ôl mewnfudo’n anghyfreithlon ar draws Môr y Canoldir i’r Iseldiroedd a’r Almaen. Mae llawer o bobl ifanc o’n cymdogaeth ni wedi gwneud yr un peth – o ganlyniad i hynny mae mwy o dai’n cael eu hadeiladu gydag arian sy’n llifo o wledydd yn y Gogledd. Rydw i wedi teimlo’n genfigennus bob tro. Pan deithiodd llawer o’m cyfeillion dramor i weithio, roeddwn innau hefyd eisiau mudo dros Fôr y Canoldir i wireddu fy mreuddwydion. Ond, gwthiodd fy nghynged fi i le gwahanol.

Saith mlynedd yn ôl, deuthum i’r Aifft i gychwyn fy addysg prifysgol. Roeddwn i’n cael trafferth addasu. Roeddwn wedi fy llethu gan gymysgedd o deimladau: hiraeth, unigrwydd a theimlo fel dieithryn. Ystyriais roi’r gorau i’r cwbl a dychwelyd adref. Ond – doedd adref ddim yn adref bellach.

Mae “The Home Seekers” yn archwilio fy nheimladau cymhleth. Mae’n adlewyrchu’r diffyg perthyn y mae ffoaduriaid o Sudan yn ei deimlo yn Cairo a’r gwahaniaethu hiliol a deimlir bob dydd mewn mannau cyhoeddus, ar drafnidiaeth neu wrth gerdded yn y strydoedd. Mae’n anodd bod yn ddu yn yr Aifft. Mae pobl gyda chroen du’n cael eu hystrydebu a’u labelu gan y cyfryngau Eifftaidd, sy’n helpu i ehangu’r rhagfarn yn erbyn pobl Ddu yn y gymdeithas Eifftaidd.


Mae Salih Basheer (g. 1995) yn adroddwr straeon / ffotograffydd llawrydd o Sudan sy’n canolbwyntio ar faterion cymdeithasol. Adroddodd am y chwyldroadau yn Sudan a’r tonnau o brotestiadau ar ôl i bobl oedd yn protestio yn Khartoum gael eu chwalu. Ers hynny, mae ei waith ffotograffiaeth wedi datblygu’n brosiectau mwy tymor hir.

Symudodd Salih i Cairo yn 2013 a derbyniodd ei Radd Bagloriaeth mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Cairo yn 2017. Cychwynnodd brwdfrydedd mawr Salih am ffotograffiaeth yn 2016, pan fu o gymorth iddo i’w ailddarganfod ei hun, ac y rhoddodd lais ac iaith iddo i’w fynegi ei hun yn llawn drwy iaith weledol ffotograffiaeth. Yn ogystal, mae byw yn Cairo wedi bod yn allweddol yn ei daith fel ffotograffydd.

Ar y Wefan | Instagram