Sarah Waiswa

Ballet in Kibera


Ni fyddech yn ystyried cysylltu arddull ddawnsio a aned yn ystod y dadeni yn yr Eidal gyda grŵp o blant sy’n byw yn un o’r anheddau anffurfiol mwyaf yn Affrica, Dydy dawnsio ei hun ddim yn beth diarth i’r cyfandir, ac mae wedi chwarae rhan hanfodol yn niwylliant Affrica, a hynny fel mwy na dim ond math o adloniant – mae’n hysbys ei fod yn cyfathrebu emosiynau ac yn dathlu defodau newid byd hefyd. Am fod gwersi ballet yn eithriadol o ddrud, mae’r ddawns yn aml yn gysylltiedig â braint, a’r grym a ddaw gyda braint. Dywedodd y beirniad dawns Jennifer Homans fod ballet wedi cychwyn fel gweithgaredd oedd yn ymwneud â dynion, grym a phobl bwysig, a gyda ballet modern dechreuodd ymwneud â merched, breuddwydion a’r dychymyg, Roeddwn i eisiau cyfleu’r cyflwr yn y canol, y dychymyg a’r realiti, a chynnig dewis gwahanol i’r ystrydeb fonolithig o’r plentyn Affricanaidd tlawd o’r slym.


Ganed Sarah Waiswa yn Uganda, ac mae hi’n gweithio yn Kenya fel ffotograffydd dogfennol a phortreadau sydd â diddordeb mewn archwilio’r Hunaniaeth Affricanaidd Newydd ar y cyfandir. Mae gan Sarah raddau mewn cymdeithaseg a seicoleg, ac mae ei gwaith yn archwilio materion cymdeithasol yn Affrica mewn ffordd gyfoes ac annhraddodiadol. Yn 2015, cafodd y wobr gyntaf yn y categorïau creadigol a stori yng Ngwobrau Ffoto Gwasg Uganda ac ail wobr yn y categorïau bywyd dyddiol a phortreadau. Yn 2016 derbyniodd y Wobr Discovery yn Arles, Ffrainc ac yn 2017 derbyniodd Wobr Gerald Kraak yn Johannesburg, De Affrica. Yn 2018 cafodd ei henwi yn Llysgennad Brand i Canon a chafodd ei dethol ar gyfer Rhaglen Affrica 6×6 Ffotograffau Gwasg y Byd. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn arddangosfeydd ledled y byd, ac yn fwyaf diweddar yn Oriel Genedlaethol Victoria yn Awstralia. Bydd ei gwaith yn cael ei arddangos yng Ngŵyl Ffotograffiaeth Bryste 2021 mewn cydweithrediad â Bristol Archives. Cafodd ei ffotograffau eu cyhoeddi yn y Washington Post, Bloomberg, y New York Times, a chyhoeddiadau eraill. Yn gynharach eleni sefydlodd African Women in Photography, sef sefydliad dielw yn benodol i ddathlu a rhoi cydnabyddiaeth i waith merched a ffotograffwyr anneuaidd o Affrica.

Ar y Wefan | Instagram