Zillah Bowes


Nifer o Leisiau, Un Genedl


Mae Zillah Bowes yn wneuthurwr ffilmiau, yn ffotograffydd ac yn fardd. Mae ei gwaith yn aml yn ystyried rôl tirwedd a’i pherthynas â’r unigolyn. Cafodd ei magu yn ardal wledig De Swydd Gaerloyw, yn agos at deulu yn Ne Cymru yr ochr arall i Bont Hafren. Mae ei chysylltiad parhaus â natur yn llywio ei harfer ar draws pob cyfrwng. Bu’n byw am sawl blwyddyn yn Llundain cyn symud i Gymru ac yn ddiweddar mae wedi treulio blwyddyn yng Nghwm Elan yng nghanolbarth Cymru yn ymchwilio i sawl prosiect artistig. Ymhlith y rhain mae ei ffilm ffuglen gyntaf, gyda chefnogaeth Ffilm Cymru, Sefydliad Ffilm Prydain a’r BBC, a’i harddangosfa unigol gyntaf o ffotograffau, gyda chefnogaeth Ffotogallery, a fydd yn teithio yn 2020. Hyfforddodd Bowes mewn ffilm yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol ac mewn barddoniaeth yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Wordsworth Trust a Gwobr Cymru Greadigol.


Briff y Prosiect

Ar gyfer y prosiect ‘Nifer o Leisiau, Un Genedl’, mae Bowes wedi cynhyrchu cyfres o ddelweddau o gymuned ffermio mynydd yn Sir Faesyfed, a hynny yng ngolau’r lleuad. Mae ffermwyr tenant Ystâd Elan yng nghymoedd Elan a Claerwen yn cadw defaid ar y mynydd agored. Maent yn eu casglu gyda’u cymdogion, yn aml wrth farchogaeth, gan ffurfio cymuned agos a throsglwyddo ffordd draddodiadol o fyw. Mae Brexit, ynghyd â phryderon economaidd ac amgylcheddol gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, yn creu ansicrwydd i ffermwyr y dyfodol yn ucheldiroedd Cymru. Mae aelodau’r gymuned hon sydd newydd ddechrau eu bywydau fel ffermwyr yn arddel dilyniant. Yn arwyddocaol, mae sawl merch ifanc yn y genhedlaeth newydd. Gan ddefnyddio golau’r lleuad fel ei hunig ffynhonnell o olau, mae Bowes yn archwilio’r sefyllfa drothwyol hon, gan osod pobl ar y tir lle maent yn geidwaid y presennol ac yn geidwaid hanesyddol.

Yn lleol, mae pobl yn cael eu galw wrth eu henwau cyntaf ac enw eu fferm.